Dysgu o’r Cyfnod Clo

Am amser i ddechrau busnes newydd! Byddai rhywun yn meddwl gyda’r economi yn dioddef oherwydd sgil effeithiau covid efallai nad hwn oedd yr amser iawn, ond mae’n ymddangos bod y gwrthwyneb yn wir.

Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd fel tîm o arbenigwyr polisi am flynyddoedd gyda ffocws ar lywodraeth a gwleidyddiaeth, a rhyngom mae gennym ddegawdau o brofiad ar lefel uwch o ddatblygu a chyflawni newid polisi, cyfathrebu, ymgynghori a mesur agweddau’r cyhoedd.

Dangosodd y pandemig pa mor bwysig yw’r penderfyniadau sy’n cael ei gwneud ar y lefel lleol a chenedlaethol, pwysigrwydd gwleidyddiaeth ddatganoledig ac yr angen i ennill ymddiriedaeth y cyhoedd trwy gyfathrebu clir a cywir. Rydym wedi bod yn gweithio i helpu mudiadau a busnesau i ddeall oblygiadau polisïau cyhoeddus mewn ymateb i Covid, ac i ddeall y wleidyddiaeth hefyd.

Ond mae’r pandemig wedi neud i ni adolygu ac ailfeddwl sut allwn ni ddysgu o’r ymarferion gwaith newydd i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol a chynaliadwy.

Rydyn ni wedi bod yn cynnal gweithdai polisi cymhleth, ymgynghoriadau cyhoeddus ac ymgyrchoedd cyfathrebu gwleidyddol ers blynyddoedd, felly rydym wedi ymestyn ac ehangu ein gwaith ar-lein er mwyn gwella ein gwasanaeth ac ystod ein cynulleidfa.

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd a chyfarfodydd ar-lein bellach, ond rydym yn rhy gyfarwydd â’r problemau gall codi ac mae ein gwasanaeth hwyluso arbenigol yn golygu y gallwn lywio eich cyfarfod a denu cyfraniadau gan  eich cynulleidfa yn hyderus. Gall gweinyddu cyfarfodydd hefyd fod yn boenus (ble mae’r ddolen? A yw yn fy nghalendr neu fy e-byst? Y ddogfen strategaeth honno a anfonwyd yr wythnos diwethaf? Yr agenda diwygiedig ar gyfer heddiw) ac felly rydym yn cynllunio ac yn delifro’r holl waith logisteg ar eich cyfer.

A byddwn yn gwneud y cyfan ar-lein, mewn ffordd fydd yn apelio at gynulleidfa mor eang â phosib, fel bod eich staff, aelodau neu breswylwyr yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan yn y sgwrs.

Rydym wedi buddsoddi a datblygu platfform ar-lein wedi’i ddylunio’n dda y gallwn ei ddefnyddio tro ar ôl tro ar gyfer eich anghenion, ac mae gennym lefelau gwahanol o wasanaeth ar eich cyfer.

  • Mae ein pecyn efydd yn cynnwys gweithdy ar-lein ar gyfer eich tîm. Fe fyddwn yn ymgymryd â’r holl waith trefnu a hwyluso.
  • Gall ein pecyn arian cynnwys fod yn ymgynghoriad ar-lein gyda’ch cynulleidfa benodol, ble fyddwn yn hwyluso trafodaeth a datblygiad polisi cyhoeddus penodol. Fe fyddwn yn gwneud yr holl waith trefnu, hwyluso ac yn defnyddio bwrdd gwyn digidol i helpu gyda’r gwaith.
  • Byddai’r pecyn aur yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus mwy eang ar ddatblygiad newydd neu’n ailgynllunio polisi newydd gyda theclynnau arbenigol o fapiau rhyngweithiol, a gwaith dadansoddi canlyniadau.

Mae manteision newid ein ffordd o weithio dros y cyfnod diwethaf yn golygu nad oes yn rhaid i ni gynllunio digwyddiadau sy’n gynnwys llawer o deithio a chostau ychwanegol. Gallwn wneud y cyfan yn ddwyieithog o’r dechrau i’r diwedd. A gallwn ddarparu siop un stop i chi.

Rydyn ni’n edrych ymlaen i drafod.