Tyfu Sir Gâr

Gwnaethom gefnogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr i gynnal digwyddiad arlein gyda'r bwriad i gynyddu canran o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar fwyd lleol.

Y Briff

Gwnaethom gefnogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr i gynnal digwyddiad arlein gyda’r bwriad i gynyddu canran o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario ar fwyd lleol. Fydd diwygio caffael bwyd y sector cyhoeddus yn ffordd bwerus i leihau milltiroedd bwyd, cefnogi’r economi leol a darparu prydau iachach i ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus eraill.

Yr ateb

Roedd y digwyddiad wedi’i gynllunio i gysylltu â’r sector ffermio a bwyd ar draws Sir Gâr. Buom yn gweithio gyda’r tîm yng Nghyngor Sir Gâr i drefnu a hwyluso gweithdy ar-lein gydag arweinwyr caffael i drafod sut i fynd i’r afael â’r rhwystrau cyfredol sydd ar waith, yn dysgu o enghreifftiau rhyngwladol o fodelau newydd o fwyd ac er mwyn ceisio annog tyfu ystod fwy amrywiol o gynhyrchion yn lleol.