Cyfarfodydd Ymgynghorol Ar-lein
Gallwn reoli eich ymgysylltiad dwyieithog gyda chymunedau lleol ar newid gwasanaethau, cynllunio neu prosiectau datblygu.
Mae cyfarfodydd ar-lein yma i aros. Ac mae ganddynt lawer o fanteision – maent yn dileu amser teithio ac yn ei gwneud hi’n haws i bobl ag ymrwymiadau gofalu gymryd rhan. Ond oni bai eu bod yn cael eu rhedeg yn effeithiol, gallant fynd yn ddiflas yn hawdd neu ddisgyn i anhrefn.
Dyna ble gallwn eich helpu. Byddwn yn defnyddio ein profiad, ein harbenigedd a’n technoleg i dynnu’r straen allan o redeg cyfarfodydd rhithiol. Byddwn yn gofalu am gyfathrebu a threfniadau, ac yn rhoi popeth mewn un lle i wneud bywyd yn hawdd i chi a’ch cyfranwyr.
Os ydych chi'n ymgynghori ar ddatblygiad cynllunio, bydd ein teclyn mapio ar-lein yn helpu osgoi dryswch ac yn rhoi ffordd hawdd i unigolion ddarparu adborth ac awgrymiadau ar sail lleoliad.
Pam ymddiried ynom?
Rydym wedi bod yn cynnwys cymunedau mewn datblygu polisi cyhoeddus ers amser maith – mae ein hoffer digidol wedi cael eu cynllunio gan arbenigwyr polisi cyhoeddus sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn cynnal ymgynghoriadau yma yng Nghymru. Bydd ein tîm dwyieithog yn eich tywys trwy’r broses o’r dechrau i’r diwedd, gan eich cynghori ar y ffordd orau i ymgysylltu gyda’ch cymunedau i gael yr adborth a’r atebion sydd eu hangen arnoch.