Ein gwaith

1

Tyfu Sir Gâr

Gwnaethom gefnogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr i gynnal digwyddiad arlein gyda'r bwriad i gynyddu canran o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar fwyd lleol.
Dysgu mwy
2

Canser yng Nghymru

Daethom â chleifion, elusennau, clinigwyr ac ymchwilwyr ynghyd i drafod syniadau newydd i'r ffordd y mae math penodol o ganser yn cael ei drin yng Nghymru. Defnyddiwyd bwrdd gwyn ar-lein i recordio a rhannu pwyntiau allweddol, a chyflawni cynllun o gynigion yn glir ac yn gryno.
Dysgu mwy
3

Iechyd Meddwl yn y Gweithle

Rydym yn hwyluso gweminarau a gweithdai yn rheolaidd gyda gwleidyddion. Yn ddiweddar fe wnaethom hwyluso cyfarfod gyda gweinidog Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru a dros 50 o aelodau CIPD Cymru ar sut i gefnogi iechyd meddwl y gweithle yn ystod y pandemig.
Dysgu mwy
4

Jones Brothers Henllan

Mae ein teclyn ymgynghori ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer yr amryw o brosiectau y mae Jones Brothers Henllan yn eu datblygu ledled Cymru. Mae'r gwasanaeth yn galluogi’r tîm i rannu newyddion am eu prosiectau, derbyn a gwrando ar adborth ac ymgysylltu â thrigolion lleol.
Dysgu mwy